Dad, dy gariad yn glir ddisgleiria,
trech na’r t’wyllwch, yn glir ddisgleiria;
Iesu, goleuni’r byd, cofia ninnau,
ti yw’r gwir a’n rhyddha o’n cadwynau:
Grist, clyw ein cri, goleua ni.
Air disglair Duw,
dyro d’olau i Gymru heddiw,
tyrd, Ysbryd Glân, rho dy dân i ni:
rhed, afon gras,
taena gariad ar draws y gwledydd,
dyro dy air
a goleuni a fydd.
Dof o’th flaen di, O Arglwydd sanctaidd,
o’r cysgodion i’th olau euraidd;
gwaed y groes ddaw â mi i’r goleuni,
chwilia fi a glanha fi o’m bryntni:
Grist, clyw fy nghri, goleua fi.
Er mor danbaid yw dy ddisgleirdeb,
ni fydd raid i mi guddio f’ŵyneb;
a phob dydd wrth im syllu a syllu
daw fy mywyd yn ddrych i’th oleuni,
gwir olau gwiw, gair disglair Duw.
GRAHAM KENDRICK (Lord, the light of your love is shining), cyfieithiad awdurdodedig: CASI JONES
Hawlfraint © 1987 Make Way Music, P.O. Box 263, Croydon CR9 SAP
Rhyngwladol. Cedwir pob hawl. Cyfieithiad awdurdodedig © 1991 Make Way Music
(Caneuon Ffydd 228, Grym Mawl 1: 107)
PowerPoint