Daeth Prynwr dynol-ryw
yn fyw o’i fedd
a disglair ddelw Duw
yn harddu’i wedd;
dymchwelodd deyrnas gaeth
hen deyrn marwolaeth du:
rhaid ydoedd rhoi rhyddhad
i’n Ceidwad cu.
Gwnaeth waith y cymod hedd
mewn llwyredd llawn,
mae’i feddrod gwag yn dweud
ei wneud yn Iawn;
trwy’r codi rhoes y Tad
fawrhad ar Galfarî,
a thorrodd gwawr ar nos
ein hachos ni.
Yng ngolau’r trydydd dydd
cwyd ffydd ei phen,
gwêl Iesu’n selio’i hawl
i fawl nef wen;
a thrwy’i ddyrchafiad ef
gwêl hefyd nef i’w saint,
nef lawn o ddwyfol hedd:
O ryfedd fraint!
MEIGANT, 1851-99
(Caneuon Ffydd 556)
PowerPoint