Rhyfeddol serch a’m denodd i
Haelioni trugaredd
A’m prynu i yn llwyr â’th waed
A’m henaid di-haeddiant
Dduw, rwyt ti mor dda
Dduw, rwyt ti mor dda
Dduw, rwyt ti mor dda, rwyt ti mor dda i mi
Nawr wele’r groes
O oes i oes, o funud i funud
Y meirw’n fyw, rhai gwael yn saff
Trwy holl waith dy bŵer
Dduw, rwyt ti mor dda
Dduw, rwyt ti mor dda
Dduw, rwyt ti mor dda, rwyt ti mor dda i mi
Profais fendith, fe’m galwyd
Ces iachâd, rwyf yn llawn
Ces fy achub yn enw Crist
Profais ffafr, fe’m heneiniwyd
A’m llenwi â’th nerth
Er gogoniant i enw Crist
Er gogoniant i enw Crist
Ac os mai poen a ddaw i’m hynt
Fy Arglwydd, fe gofiaf
Ar Galfarî, fe’m prynaist i
Nawr ac yn dragwyddol
Dduw, rwyt ti mor dda
Dduw, rwyt ti mor dda
Dduw, rwyt ti mor dda, rwyt ti mor dda i mi
Dduw, rwyt ti mor dda
God, you’re so good (Brett Younker | Brooke Ligertwood | Kristian Stanfill | Scott Ligertwood)
Cyfieithiad awdurdodedig Arwel E. Jones
© KPS 1.0 (Gwein. gan Capitol CMG Publishing)
sixsteps Music (Gwein. gan Capitol CMG Publishing)
worshiptogether.com songs (Gwein. gan Capitol CMG Publishing)
SHOUT! Music Publishing Australia (Gwein. gan SHOUT! Music Publishing UK)
CCLI # 7197538
Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.
PowerPoint