Dechrau canu, dechrau canmol –
ymhen mil o filoedd maith –
Iesu, bydd y pererinion
hyfryd draw ar ben eu taith;
ni cheir diwedd
byth ar sŵn y delyn aur.
Yno caf fi ddweud yr hanes
sut y dringodd eiddil, gwan
drwy afonydd a thros greigiau
dyrys, anial, serth i’r lan:
Iesu ei hunan
gaiff y clod drwy eitha’r nef.
Nid oes yno ddiwedd canu,
nid oes yno ddiwedd clod,
nid oes yno ddiwedd cofio
pob cystuddiau a fu’n bod;
byth ni dderfydd
canmol Duw yn nhŷ fy Nhad.
WILLIAM WILLIAMS, 1717-91
(Caneuon Ffydd 711)
PowerPoint