logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Deued pechaduriaid truain

Deued pechaduriaid truain
yn finteioedd mawr ynghyd,
doed ynysoedd pell y moroedd
i gael gweld dy ŵyneb-pryd,
cloffion, deillion, gwywedigion,
o bob enwau, o bob gradd,
i Galfaria un prynhawngwaith
i weld yr Oen sydd wedi ei ladd.

Dacw’r nefoedd fawr ei hunan
nawr yn dioddef angau loes;
dacw obaith yr holl ddaear
heddiw’n hongian ar y groes:
dacw noddfa pechaduriaid,
dacw’r Meddyg, dacw’r fan
y caf wella’r holl archollion
dyfnion sydd ar f’enaid gwan.

Dacw’r unig feddyginiaeth
gadarn i druenus ddyn;
mae pob gobaith wedi darfod
maes ohono ef ei hun:
trwm a llwythog yw fy meichiau,
poen euogrwydd sydd yn fawr;
nid oes fan and pen Calfaria
gallaf roi fy mhen i lawr.

WILLIAM WILLIAMS, 1717-91

(Caneuon Ffydd 515)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 5, 2015