Deuwn yn llon at orsedd Duw,
ein Ceidwad digyfnewid yw;
gwyrth ei drugaredd sydd o hyd
ar waith ynghanol helbul byd.
Gwir yw y gair, fe ddeil yr Iôr
i agor llwybyr drwy y môr;
lle byddo ffydd fe ddyry ef
ddŵr pur o’r graig a manna o’r nef.
Deil i waredu, heb lesgau,
ei blant rhag llewod yn y ffau;
fe’n ceidw eto rhag pob nam
yn ffwrn y byd a’i ysol fflam.
Fe ddyry Duw, lle caffo ffydd,
ar ôl pob croes ryw drydydd dydd;
daw at drueiniaid fel o’r blaen
o’i gariad mawr i dreiglo’r maen.
R. GWILYM HUGHES, 1910-97 © Meirion Hughes (Defnyddiwyd trwy ganiatâd)
(Caneuon Ffydd: 09)