Dewch, bobl Crist, cyfododd ef,
Canwn fawl i’n brenin byw.
Yn gôr fe seiniwn gân o glod
I’n Harglwydd ni a’n Duw.
Lan o’r ddaear las i’r nefoedd wen
Codwn ein hedrychiad fry,
Ei freichiau sydd yn estyn mas
I’n cynorthwyo ni.
Rhown glod!
Rhown glod!
Pob tafod, dewch, rhown glod !
Un llais,
Un gân
O fawl i’n Harglwydd glân.
Dewch bawb sy’n dioddef ing a loes
Bawb sy’n deall beth yw poen,
Dewch hefyd chi sy’n llawen iawn,
Rhowch eich diolch nawr i’r Oen.
Digyfnewid yw ei gariad Ef,
A’i drugaredd sy’n ddi-drai.
Yn ffyddlon, bydd holl ddyddiau’n hoes
A’i heddwch yn parhau.
Dewch hen ac ifanc, dewch yn llu,
Dewch o bedwar ban y byd,
Dewch bawb sy’n caru Iesu Grist
Cyfoeth yw ei ras i ni.
Canwn am y gwirioneddau mawr,
Unwn i’w glodfori E’.
Ei air sy’n wir o oes i oes;
Ein Duw sy’n llond pob lle.
(Come people of the risen King: Keith a Kristyn Getty & Stuart Townend)
Cyfieithiad Cymraeg Awdurdodedig: Gwenda Jenkins
Hawlfraint© ac yn y cyfieithiad hwn 2007 Thankyou Music/Adm. gan worshiptogether.com songs
ac eithrio DU ac Ewrop, gwein. gan Kingsway Music tym@kingsway.co.uk Defnyddir trwy ganiatâd