Dewch i’w weld, dewch i’w weld,
Frenin cariad, dewch i’w weld;
Gwelwch goron ddrain
a gwisg o borffor drud.
Creulon groes ar ei gefn,
Gwawd y milwyr, gwaedd y llu,
Unig ac heb gyfaill, dringa at y bryn.
Addolwn wrth dy draed,
Man cwrdd i lid a hedd,
Ac fe olchir euog fyd
gan gariad pur.
Yn bechod drosom ni,
O gad in ddeall hyn;
Dwfn friwiau cariad
waeddant ‘Maddau Dad’.
Addolaf, addolaf,
Yr oen gas ei ladd.
Wylwn nawr ger ei fron;
Archoll pechod arno’n ddwfn
Briwiau dyfnach fil
na’r hoelion dur a’r drain.
Balchder dyn, a’i holl chwant,
Ein syrthiedig g’wilydd ni;
Rhoes yr Arglwydd arno’n cost
yn llwyr a llawn.
Nefol un, ddaeth i’n byd,
I’n dwyn ni yn ôl i’th nef,
Gwylaidd blygwn ben
dan drem dy lygaid di.
Drwy dy ing daw ein gwledd,
A thrwy’th farw byw wnawn ni –
Nerth dy atgyfodiad sy’n ein codi fry.
Graham Kendrick (Come and see), cyf. Catrin Alun © 1989, Make Way Music P.O. Box 683, Haisham, East Sussex, BN27 4ZB. Sicrhawyd Hawlfraint Rhyngwladol. Cedwir pob hawl.
Cyfieithiad Awdurdodedig © 1991 Make Way Music. Defnyddir trwy ganiatâd.
(Grym Mawl 1: 23)
PowerPoint