Os ffydd sy’n symud mynydd,
Symud nawr i ni.
Down yma yn ddisgwylgar
Disgwyl ‘mdanat ti, disgwyl ‘mdanat ti.
Ti yw Arglwydd yr holl Gread
ac eto’n ʼnabod i.
Ie, Awdur ein hachubiaeth,
Yr un â’n carodd ni.
Disgwyl ʼmdanat ti
Dyma ni (â’n) dwylo fry mewn mawl.
Ti yw’r un garwn ni –
Canwn Haleliwia
Rwyt ti’n bopeth a addewaist
Mor ffyddlon ac mor wir.
Dyhewn am am dy gwmni
a’th gyffyrddiad di.
Canwn Haleliwia, Haleliwia
Canwn Haleliwia, Haleliwia
Waiting here for you: Chris Tomlin, Jesse Reeves, Martin Smith.
Cyfieithiad Awdurdodedig: Arfon Jones
© Capitol CMG Publishing
PowerPoint
Datganiad Hawlfraint
Mae gobaith.org yn darparu'r ffeiliau PowerPoint hyn o gyfieithiadau o ganeuon mawl Saesneg fel gwasanaeth rhad ac am ddim, ond amddiffynnir yr holl ganeuon gan ddeddf hawlfraint. Gall deiliaid Trwydded Hawlfraint Eglwysi lawrlwytho ac atgynhyrchu geiriau'r caneuon hyn yn unol ag amodau eu trwydded, a dylent gynnwys pob cân a ddefnyddir yn eu hadroddiad defnydd o ganeuon blynyddol. Os nad oes trwydded hawlfraint gennych bydd rhaid derbyn caniatâd gan berchennog pob cân y dymunwch ei lawrlwytho a/neu ei hatgynhyrchu. Am fanylion pellach am y Drwydded Hawlfraint Eglwysi ewch i www.ccli.com neu ffoniwch 01323 436103.