Dros fynydd mawr a moroedd maith Rhed afon cariad ataf i Agoraf ddrysau nghalon gaeth Derbyn ei iachawdwriaeth Ef. Rwy’n hapus i fod yn y gwir Dyrchafaf nwylo’n ddyddiol fry A chanaf byth am ddyfod cariad Duw i lawr. Canaf am gariad fy Nuw byth bythoedd Canaf am gariad fy Nuw byth bythoedd Canaf am […]
Daw ymchwydd mawr o bedwar ban, Pellafoedd byd, mewn llawer man; Lleisiau cytûn, calonnau’n un, Yn canu clod i Fab y Dyn. ‘Mae’r pethau cyntaf wedi bod’: Mae heddiw’n ddydd i ganu clod, Rhyw newydd gân am nefol ras Sy’n cyffwrdd pobl o bob tras. Gadewch i holl genhedloedd byd Ateb y gri a chanu […]
Derbyn fy niolch gwir am fy achub i; Rhof fi fy hun yn llwyr i foli d’enw di. Tywelltaist ti dy waed i’m puro i; Fy mhechod i, a’m gwarth, a roddwyd arnat ti. F’Arglwydd a’m Duw, F’Arglwydd a’m Duw! Dy wirionedd di a’m gwnaeth yn rhydd; Caf weld dy wedd ryw ddydd. Gras a […]
Os ffydd sy’n symud mynydd, Symud nawr i ni. Down yma yn ddisgwylgar Disgwyl ‘mdanat ti, disgwyl ‘mdanat ti. Ti yw Arglwydd yr holl Gread ac eto’n ʼnabod i. Ie, Awdur ein hachubiaeth, Yr un â’n carodd ni. Disgwyl ʼmdanat ti Dyma ni (â’n) dwylo fry mewn mawl. Ti yw’r un garwn ni – Canwn […]
Dwylo caredigrwydd yw’th ddwylo di; Maent yn dyner fel sidan – cryf i’m cynnal i. Rwy’n dy garu, Rhof fy hun i ti, Ac ymgrymaf fi. Dwylo llawn tosturi yw’th ddwylo pur; Hoeliwyd hwy ar y croesbren, im gael bod yn rhydd. Cariad sydd o’m mewn i’n llosgi nos a dydd; Cariad f’annwyl Waredwr yw […]
Gwŷr y ffydd, dewch codwch gân, Cenwch glod i’r Arglwydd glân; Os yn wan, cewch nerth y nef, Nid oes gwendid ynddo Ef. Bloeddiwch ar bobloedd y byd, Cenwch i’r gwledydd i fyd: Iesu’r Gwaredwr yw Ef, Arglwydd daear a nef. Bloeddiwch ar bobloedd y byd. Codwch wragedd yn y ffydd, Rhoddwch gân i lonni’r […]
Heddiw, a yw’n wir Y gall gweddi’r gwan Roi i’r ddaear law, Chwalu gwledydd mawr? Dyna’r gwir, ac rwy’n ei gredu; Rwy’n byw er dy fwyn. Ydy’, mae yn wir. Fe all gweddi wan Godi’r meirw cudd, Rhoddi’r dall yn rhydd. Dyna’r gwir ac rwy’n ei gredu, Rwy’n byw er dy fwyn. Byddaf yn un, […]
Mae fy nghalon i yn eiddo llwyr i ti: Iesu, arwain fi ar lwybrau Duw. Mae fy nghalon i yn eiddo llwyr i ti: Rhof fy hun yn aberth sanctaidd byw. DYNION Ac fe addolaf fi, MERCHED Fe addolaf fi. DYNION A chanaf am dy gariad di, MERCHED Canaf am dy gariad di, DYNION A […]
O’r fath gyfaill yw, Fe deimlais ei gyffyrddiad; Glyna’n well na brawd; Agosach yw na chariad. Iesu, Iesu, Iesu, Gyfaill ffyddlon. O’r fath obaith rydd – Does dim oll all gymharu: Gofal tad na mam, Fy Arglwydd – mae’n fy ngharu. (Grym Mawl 2: 149) Martin Smith: What a friend I’ve found, Cyfieithiad Awdurdodedig: Arfon […]
Wel, mae gen i neges i’r byd – Gwrandewch nawr ar eiriau ‘nghân. Dwi ddim yn bregethwr mawr, Ond mae nghalon i ar dân. Nid fi yw yr unig un, Mae’r fflam ar led drwy’r byd. Cenhedlaeth o bobl sy’n hiraethu Am gael gweld diwygiad mawr yn dod. Haleliwia, Pobl sy’n cael eu bendithio. Haleliwia, […]