Disgyn, Iôr, a rhwyga’r nefoedd,
tywallt Ysbryd gras i lawr;
disgyn fel y toddo’r bryniau,
diosg fraich dy allu mawr;
rhwyga’r llenni, ymddisgleiria
ar dy drugareddfa lân;
rho dy lais a’th wenau tirion,
achub bentewynion tân.
Ti achubaist y rhai gwaethaf,
annheilyngaf a fu’n bod;
achub eto, achub yma,
achub finnau er dy glod.
Ti gei’r mawl pan danio’r ddaear
a phan syrthio sêr y nen:
ti gei’r enw yn dragwyddol,
ti gei’r goron ar dy ben.
WILLLAM GRIFFITHS, 1801-81
(Caneuon Ffydd 583)
PowerPoint