Dan dy fendith wrth ymadael y dymunem, Arglwydd, fod; llanw’n calon ni â’th gariad a’n geneuau ni â’th glod: dy dangnefedd dyro inni yn barhaus. Am Efengyl gras a’i breintiau rhoddwn ddiolch byth i ti; boed i waith dy Ysbryd Sanctaidd lwyddo fwyfwy ynom ni; i’r gwirionedd gwna ni’n ffyddlon tra bôm byw. JOHN FAWCETT, […]
Disgyn, Iôr, a rhwyga’r nefoedd, tywallt Ysbryd gras i lawr; disgyn fel y toddo’r bryniau, diosg fraich dy allu mawr; rhwyga’r llenni, ymddisgleiria ar dy drugareddfa lân; rho dy lais a’th wenau tirion, achub bentewynion tân. Ti achubaist y rhai gwaethaf, annheilyngaf a fu’n bod; achub eto, achub yma, achub finnau er dy glod. Ti […]
Henffych i enw Iesu gwiw, syrthied o’i flaen angylion Duw; rhowch iddo’r parch, holl dyrfa’r nef: yn Arglwydd pawb coronwch ef. Chwychwi a brynwyd drwy ei waed, plygwch yn isel wrth ei draed; fe’ch tynnodd â thrugaredd gref: yn Arglwydd pawb coronwch ef. Boed i bob llwyth a phob rhyw iaith drwy holl derfynau’r ddaear […]