Dos, dywed ar y mynydd, ledled y bryn ac ymhob man,
dos, dywed ar y mynydd am eni Iesu Grist.
Tra gwyliai y bugeiliaid y praidd drwy’r noson hir,
yn syth o’r nef disgleiriodd goleuni dwyfol, clir.
A hwythau, wedi’i weled, aent ar eu gliniau ‘nghyd,
ac yna mynd ar unwaith i geisio Prynwr byd.
Pan geisiais innau Iesu, fe’i ceisiais nos a dydd,
erfyniais am ei gymorth, arweiniodd fi yn rhydd.
Fe’m gwnaeth yn wyliwr cyson ar furiau dinas Duw,
a’m rhawd, fi Gristion eiddil, mor ddedwydd, dedwydd yw.
1, 2 JOHN WESLEY WORK, 1873-1925 3, 4 a chytgan ANAD. cyf. DAFYDD OWEN © geiriau Cymraeg, Sian Owen
(Caneuon Ffydd: 476)
PowerPoint