Dos, dywed ar y mynydd, ledled y bryn ac ymhob man, dos, dywed ar y mynydd am eni Iesu Grist. Tra gwyliai y bugeiliaid y praidd drwy’r noson hir, yn syth o’r nef disgleiriodd goleuni dwyfol, clir. A hwythau, wedi’i weled, aent ar eu gliniau ‘nghyd, ac yna mynd ar unwaith i geisio Prynwr byd. […]
Rhyfeddol ras! O’r fendith dlos Achubodd walch fel fi; Ar goll, fe’m caed, ac ar fy nos Fe dorrodd gwawr yn lli. Gras ‘ddysgodd ofn i’m calon goll, Gras ‘chwalodd f’ofnau lu; O awr y credu cyntaf oll, Gras yw fy nhrysor cu. Er gwaethaf llaid a maglau’r byd, Clod byth i ras, ’rwy’n fyw! […]