Dros bechadur buost farw,
dros bechadur, ar y pren,
y dioddefaist hoelion llymion
nes it orfod crymu pen;
dwed i mi, ai fi oedd hwnnw
gofiodd cariad rhad mor fawr
marw dros un bron â suddo
yn Gehenna boeth i lawr?
Dwed i mi, a wyt yn maddau
cwympo ganwaith i’r un bai?
Dwed a ddeui byth i galon
na all gynnig ‘difarhau?
Beth yw pwysau’r beiau mwyaf
a faddeui? O ba ri’?
Pa un drymaf yw fy mhechod
ai griddfannau Calfarî?
Arglwydd, rhaid i mi gael bywyd;
mae fy meiau yn rhy fawr,
fy euogrwydd sy’n cydbwyso
â mynyddoedd mwya’r llawr:
rhad faddeuant, gwawria bellach,
gwna garcharor caeth yn rhydd,
fu’n ymdreiglo mewn tywyllwch,
nawr i weled golau’r dydd.
WILLIAM WILLLAMS, 1717-91
(Caneuon Ffydd 517)
PowerPoint