Duw Abram, molwch ef,
yr hollalluog Dduw,
yr Hen Ddihenydd, Brenin nef,
Duw, cariad yw.
I’r Iôr, anfeidrol Fod,
boed mawl y nef a’r llawr;
ymgrymu wnaf, a rhof y clod
i’r enw mawr.
Duw Abram, molwch ef;
ei hollddigonol ddawn
a’m cynnal ar fy nhaith i’r nef
yn ddiogel iawn;
i eiddil fel myfi
fe’i geilw’i hun yn Dduw;
trwy waed ei Fab ar Galfari
fe’m ceidw’n fyw.
Er bod y cnawd yn wan,
er gwaethaf grym y byd,
drwy ras mi ddof i hyfryd fan
fy nghartref clyd;
mi nofia’r dyfnder llaith
â’m trem ar Iesu cu;
af drwy’r anialwch erchyll maith
i’r Ganaan fry.
Holl dyrfa’r nef a gân
mewn diolch yn gytûn
i’r Tad a’r Mab a’r Ysbryd Glân
eu mawl sydd un:
O henffych, Iôr di-lyth;
clodforaf gyda hwy
Dduw Abraham a’m Duw innau byth
heb dewi mwy.
THOMAS OLIVERS, 1725-99 cyf. ROBERT WILLIAMS, 1804-55
(Caneuon Ffydd 113)
PowerPoint