Duw Abram, molwch ef, yr hollalluog Dduw, yr Hen Ddihenydd, Brenin nef, Duw, cariad yw. I’r Iôr, anfeidrol Fod, boed mawl y nef a’r llawr; ymgrymu wnaf, a rhof y clod i’r enw mawr. Duw Abram, molwch ef; ei hollddigonol ddawn a’m cynnal ar fy nhaith i’r nef yn ddiogel iawn; i eiddil fel myfi […]
O am dafodau fil mewn hwyl i seinio gyda blas ogoniant pur fy Mhrynwr gwiw a rhyfeddodau’i ras. Fy ngrasol Arglwydd i a’m Duw, rho gymorth er dy glod i ddatgan mawl i’th enw gwiw drwy bobman is y rhod. Dy enw di, O Iesu mawr, a lawenycha’n gwedd; pêr sain i glust pechadur yw, […]
Rho imi galon lân O Dad, i foli d’enw di calon yn teimlo rhin y gwaed dywalltwyd drosof fi. Calon fo wedi’i meddu’n glau gan Iesu iddo’i hun calon fo’n demel i barhau i’r bythol Dri yn Un. Calon ar ddelw’r hwn a’i gwnaeth yn llawn o’i gariad ef yr hon yn Nuw all lawenhau […]