Duw mawr y nefoedd faith,
mor bur, mor dirion yw,
mor rhyfedd yw ei waith
yn achub dynol-ryw:
sancteiddier enw’r Arglwydd Iôr
drwy’r ddaear faith a’r eang fôr.
Daioni dwyfol Iôn
a welir ymhob lle,
amdano eled sôn
o’r dwyrain draw i’r de:
sancteiddier enw’r Arglwydd Iôr
drwy’r ddaear faith a’r eang fôr.
Sôn am ei enw mawr
a’i gariad pur di-lyth
a lanwo’r ddaear lawr,
boed moliant iddo byth:
sancteiddier enw’r Arglwydd Iôr
drwy’r ddaear faith a’r eang fôr.
Y DIWYGIWR, 1839 efallai gan D. SILVAN EVANS, 1818-1903
(Caneuon Ffydd 174)
PowerPoint