logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Dwed wrth dy Dduw

Dwed wrth dy Dduw

[Philipiaid 4:11-14  Alaw: Paid â Deud]

Os yw’th galon bron â thorri
Dwed wrth dy Dduw,
Os yw serch dy ffydd yn oeri
Dwed wrth dy Dduw.
Ac os chwalu mae d’obeithion
Dwed wrth dy Dduw,
Fe ddaw’n nes i drwsio’th galon,
Dwed wrth dy Dduw.

Os mai poenus yw’th sefyllfa
Dwed wrth dy Dduw,
Yn ei freichiau mae dy noddfa,
Dwed wrth dy Dduw.
Fe gei gryfder i’w wynebu
Dwed wrth dy Dduw,
Gan yr hwn sydd yn dy nerthu,
Dwed wrth dy Dduw.

Os wyt angen gwneud dy gyffes
Dwed wrth dy Dduw,
Fe wnaiff wrando ar dy hanes,
Dwed wrth dy Dduw.
Deliodd Iesu â’n pechodau
Dwed wrth dy Dduw,
Cei faddeuant drwy ei angau
Dwed wrth dy Dduw.

Ac os wyt uwchben dy ddigon
Dwed wrth dy Dduw,
Ganddo ef y daw dy roddion
Dwed wrth dy Dduw.
Os wyt drist neu os wyt ddedwydd
Dwed wrth dy Dduw,
Ynddo Ef mae’r gwir lawenydd
Dwed wrth dy Dduw.

© Cass Meurig, Tachwedd 2018

PowerPoint PDF Gwrando – MP3
  • Gwenda Jenkins,
  • April 23, 2019