Dyma’r dydd y ganed Iesu,
dyma’r dydd i lawenhau;
Arglwydd nef a ddaeth i brynu
dynol-ryw, a’u llwyr ryddhau.
Gwelwyd Iesu mewn cadachau,
iddo preseb oedd yn grud,
bu yn wan fel buom ninnau –
seiliwr nefoedd faith a’r byd.
Daeth o wlad y pur ogoniant,
daeth o wychder tŷ ei Dad,
prynodd ef i bawb a’i carant
deyrnas nef yn rhodd, yn rhad.
Dyma gariad haedda’i gofio
mewn anfarwol gân ddi-lyth;
yn y cariad hwn yn nofio
boed fy enaid innau byth.
DANIEL DDU O GEREDIGION, 1792-1846
(Caneuon Ffydd 461)
PowerPoint