Dyro inni fendith newydd
gyda’n gilydd yn dy dŷ;
ti sy’n rhoddi nerth i dderbyn,
rho’r gyfrinach oddi fry
fel y teimlwn
rym dy anorchfygol ras.
Boed i ni, drwy eiriau dynion,
brofi rhin dy eiriau di,
a’u hawdurdod yn distewi
ofnau’r fron a’i balchder hi;
trwy dy gennad
O llefara wrth dy blant.
Cyfoethoga â’th feddyliau
ein meddyliau ni, bob un,
a sancteiddia di ein bywyd
yn dy fywyd di dy hun,
ynddo i aros
yn oes oesoedd er dy glod.
Caneuon ffydd: 21
DERWYN JONES © Mrs Rosemary Bell-Davies (Defnyddir drwy ganiatâd)