Dyro inni weld o’r newydd
mai ti, Arglwydd, yw ein rhan;
aed dy bresenoldeb hyfryd
gyda’th weision i bob man:
tyrd i lawr, Arglwydd mawr,
rho dy fendith yma nawr.
Ymddisgleiria yn y canol,
gwêl dy bobol yma ‘nghyd
yn hiraethu, addfwyn Iesu,
am gael gweld dy ŵyneb-pryd;
golau cry’ oddi fry
chwalo bob rhyw gwmwl du.
Deued yr awelon hyfryd,
effaith Ysbryd gras, i lawr;
llifed atom afon bywyd
dardd o dan yr orsedd fawr:
Arglwydd da, trugarha,
y sychedig rai dyfrha.
JOHN THOMAS, 1730-1804?
(Caneuon Ffydd 184)
PowerPoint