Ein gwlad a’n pobol gofiwn nawr
mewn gweddi wrth dy orsedd fawr;
gad i’n teuluoedd geisio byw
mewn heddwch gyda thi, O Dduw.
Yng nghanol anawsterau’r oes
boed inni dderbyn golau’r groes
a chofio’r Gŵr a’i rhoes ei hun
i ddwyn dynoliaeth ar dy lun.
Lle mae casineb, cariad fo,
a lle mae cam, maddeuant rho;
yn lle amheuaeth dyro ffydd,
a gobaith lle mae calon brudd.
Llawenydd fo i’r galon drist;
yn lle tywyllwch, golau Crist;
d’ewyllys wneler yn y byd
i lwyddo’r deyrnas fawr o hyd.
Gweddïwn, Arglwydd, arnat ti
dros lywodraethau’n daear ni:
rho iddynt weledigaeth glir
i ganfod rhyddid yn y gwir.
RAYMOND WILLIAMS, 1928-90 © Margaret Williams. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.
(Caneuon Ffydd: 814)
PowerPoint