Ein gwlad a’n pobol gofiwn nawr mewn gweddi wrth dy orsedd fawr; gad i’n teuluoedd geisio byw mewn heddwch gyda thi, O Dduw. Yng nghanol anawsterau’r oes boed inni dderbyn golau’r groes a chofio’r Gŵr a’i rhoes ei hun i ddwyn dynoliaeth ar dy lun. Lle mae casineb, cariad fo, a lle mae cam, maddeuant […]