Enynner diolchgarwch,
mae ffiol dyn yn llawn;
bu Duw mewn mawr ddirgelwch
yn taenu’r gwyrthiau grawn:
doed moliant i’r cynteddau,
a diolch pêr i’r pyrth;
nid talu’n ôl ein beiau
mae’r Tad sy’n gwneud y wyrth.
Trwy’r ydfaes at yr adfyd
yr â trugaredd Duw,
mor hawdd i ddyn ddywedyd
mai Tad trugarog yw;
mae Mab y Dyn yn rhodio
bob blwyddyn drwy yr ŷd,
diolched dyn wrth gofio
bod Duw yn cofio’i fyd.
D. J. DAVIES, 1885-1970
Caneuon Ffydd 85