Enynner diolchgarwch, mae ffiol dyn yn llawn; bu Duw mewn mawr ddirgelwch yn taenu’r gwyrthiau grawn: doed moliant i’r cynteddau, a diolch pêr i’r pyrth; nid talu’n ôl ein beiau mae’r Tad sy’n gwneud y wyrth. Trwy’r ydfaes at yr adfyd yr â trugaredd Duw, mor hawdd i ddyn ddywedyd mai Tad trugarog yw; mae […]