Er mai cwbwl groes i natur
yw fy llwybyr yn y byd
ei deithio wnaf, a hynny’n dawel
yng ngwerthfawr wedd dy ŵyneb-pryd;
wrth godi’r groes ei chyfri’n goron
mewn gorthrymderau llawen fyw,
ffordd yn union, er mor ddyrys,
i ddinas gyfaneddol yw.
Ffordd a i henw yn “Rhyfeddol”
hen, a heb heneiddio yw;
ffordd heb ddechrau eto’n newydd
ffordd yn gwneud y meirw’n fyw;
ffordd i ennill ei thrafaelwyr,
ffordd yn Briod, ffordd yn Ben,
ffordd gysegrwyd, af ar hyd-ddi
i orffwys ynddi draw i’r llen.
Ffordd na chenfydd llygad barcut
er ei bod fel hanner dydd,
ffordd ddisathar, anweledig
i bawb ond perchenogion ffydd;
ffordd i gyfiawnhau’r annuwiol,
ffordd i godi’r meirw’n fyw,
ffordd gyfreithlon i droseddwyr
i hedd a ffafor gyda Duw.
ANN GRIFFITHS, 1776-1805
(Caneuon Ffydd 724)
PowerPoint