Pennill 1
 ffydd yn bell i ffwrdd, dwi’m yn dy weld di
A phethau drylliog byd yn ‘nal i’n gaeth
Mae’r poen yn gwrthod mynd ac ofn cysgodion
Ac mae ’ngobaith a’m llawenydd i ar chwâl
Cytgan
Fe saif y groes
Ac mae’th gariad yn dragwyddol
Mewn gofid rwyf yn cofio y saif y groes
Fe saif y groes, yn trechu y tywyllwch
Atgoffa ni, ym mhopeth, fe saif y groes
Pennill 2
Pan mae’r cnawd yn ildio’i bechod, rwy’n dorredig
Pan rwy’n suddo mewn cywilydd ac mewn gwarth
Pan rwyf isio ffoi a chuddio, rwyt yn chwilio
Yn dy gariad, Ti’n fy ngheisio, mi a wn
Cytgan
Fe saif y groes
Ac mae’th gariad yn dragwyddol
Mewn gofid rwyf yn cofio y saif y groes
Fe saif y groes, yn trechu y tywyllwch
Atgoffa ni, ym mhopeth, fe saif y groes
Pont (X4)
S’dim pechod nac euogrwydd nawr
I’w osod ar y groes drachefn
S’dim angen mwy, y fuddugoliaeth ddaeth i ni ar Galfarî
Cytgan (X2)
Fe saif y groes
Ac mae’th gariad yn dragwyddol
Mewn gofid rwyf yn cofio y saif y groes
Fe saif y groes, yn trechu y tywyllwch
Atgoffa ni, ym mhopeth, fe saif y groes
Pont (X2)
S’dim pechod nac euogrwydd nawr
I’w osod ar y groes drachefn
S’dim angen mwy, y fuddugoliaeth ddaeth i ni ar Galfarî
Fe saif y groes
The cross still stands (Bobby Smith, Jordan Watts & Spencer Roth)
Cyfieithiad awdurdodedig Arwel E Jones
© 2017 Johnson Ferry Worship (Gwein. Johnson Ferry Baptist Church, Inc.)
Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.
PowerPoint