logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Fe welwn orsedd fry

Fe welwn orsedd fry
Uwch pob un gorsedd sy’,
Lle daw un dydd y ffyddlon rai
O bob un gwlad;
Gerbron y Mab cawn ddod,
Heb fai trwy waed yr Oen;
Drwy ffydd daw’r gras addawodd Ef
I ni’n iachád.

Clywch leisiau’r nef ar gân;
Eu hanthem seinia’n lân;
Drwy’r llysoedd fry ar nefol dôn
Eu moliant gwyd.
Pob mawl, gogoniant, nerth
Doethineb, clod a gwerth
Sy’n eiddo’n Duw, deyrnasa fry
Ein Iôr byth mwy.

I’n cartref yno down,
Teyrnaswn gyda’r Oen;
Mewn perffaith gân clodforwn Ef
Heb grwydro mwy;
Fe sych ein dagrau’i gyd,
Rhoir bedd i boen y byd;
Daw’r Oen yn Fugail Frenin byth
A’i deyrnas saif.

There Is A Higher Throne: Keith & Kristyn Getty,Cyfieithiad Awdurdodedig: Dafydd M Job
© yn y cyfieithiad hwn 2002 Thankyou Music/gweinyddir gan CapitolCMGPublishing.com ac eithrio DU & Ewrop, gweinyddir gan Integrity Music, rhan o deulu David C Cook, songs@integritymusic.com

PowerPoint