Fe’i harchollwyd am ein troseddau,
A thros ein hanwireddau ni;
Pris ein heddwch ni roddwyd arno,
A chawsom ni lwyr iachad.
Fe’i harweiniwyd ef i’r lladdfa,
Cymerodd ef ein beiau ni;
Ac o dir y byw fe’i torrwyd,
Yr un di-fai drosom ni.
Crwydro wnaethom ni bob un,
Aethom bawb i’w ffordd ei hun,
Ac fe roddwyd arno ef
Ein hanwiredd ni i gyd.
(Descant)
Ef yw’r Oen, Ef yw’r Oen,
Aeth i’r Iladdfa drwy boen,
Ac fe roed arno ef
Ein hanwiredd ni i gyd.
Cyfieithiad Awdurdodedig: Arfon Jones, He was pierced (Like a lamb): Maggi Dawn
© 1987 ac yn y cyfieithiad hwn Thankyou Music/ Gwein. gan worshiptogether.com songs
ac eithrio DU ac Ewrop, gwein. gan Kingsway Music (tym@kingsway.co.uk) Defnyddir trwy ganiatâd
(Grym Mawl 1: 52)
PowerPoint