Fel brefa’r hydd am y dyfroedd byw,
Sychedu mae f’enaid am fy Nuw.
‘Dwi d’angen di, fy Arglwydd a’m Rhi,
‘Dwi d’angen di, ‘Dwi d’angen di.
Mwy na dim yn y byd,
Na’r anadl ynof sydd,
(Na) churiad y galon hon –
Mwy na’r rhain i gyd.
O! Dduw mewn dyddiau ddaw
Fe fyddaf fi gerllaw.
A ‘dwi byth am fynd yn ôl nawr
I’r bywyd fu.
Yma yn dy ymyl mae fy nghartref byth,
Yma mae fy enaid wedi gwneud ei nyth.
Ni fyddai’n unig mwy.
(Grym Mawl 2: 60)
Lindell Coolwy a Bruce Haynes: I Need you more, Cyfieithiad Awdurdodedig: Casi Jones
Hawlfraint © 1996 Integrity’s Hosanna! Music.
Gweinyddir gan Kingsway’s Thankyou Music.
Bargain Basement Music/Intergrated Copyright Group & Centergy Music. Gweinyddir gan CopyCare