logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Fel fflam dân mae y cariad cyntaf

Fel fflam dân, mae y cariad cyntaf
Yn llosgi yn fy nghalon i.
Fe daniodd ef fflam ei gariad ynof,
Ac ‘rwyf am iddi losgi’n gry’.
Ie, yn y nos ‘rwyf am ganu mawl i ti,
Ac yn y bore fe geisiaf d’wyneb di.

‘Rwy’n un o’th blant
ac fe ddawnsiaf o’th flaen di,
Fe lifa dy lawenydd i lawr yn lli.
‘Rwy’n dal i gofio y wefr pan gredais;
Paid gadael imi ddiffodd
fflam dy gariad di.

Yn ffrwd gref mae y cariad cyntaf
Yn llifo drwy fy mywyd i;
Yng nghanol afon o ddagrau llawenydd
Mae grym iachâd ar waith yn rhydd.
A thynnaf ddŵr o ffynhonnau’r dyfroedd byw,
A disychedu ar ffrydiau’th ras, fy Nuw.

O, deffro’r eglwys yng Nghymru eto,
A thania fflam ar ei hallor hi;
Rho iddi wefr ei chariad cyntaf eto,
A blas y fflam sydd ar led drwy’r byd.
Fe ganwn ni gân o fawl dros fryn a dôl,
Nes seinia’r utgorn dy fod yn dod yn ôl.

Cyfieithiad Awdurdodedig: Arfon Jones, My first love (Like a child): Stuart Townend
© 1996 ac yn y cyfieithiad hwn Thankyou Music/
Gwein. gan worshiptogether.com songs ac eithrio DU ac Ewrop, gwein. gan Kingsway Music
tym@kingsway.co.uk Defnyddir trwy ganiatâd

(Grym Mawl 2: 96)

PowerPoint