Fel y rhed llifogydd mawrion
fel y chwyth yr awel gref,
felly bydded f’ocheneidiau
yn dyrchafu tua’r nef;
gwn, fy Nuw na elli atal,
gwn na elli roi nacâd
o un fendith is y nefoedd
ag sydd imi er iachâd
F’enaid wrth y nef sy’n curo,
yno mae yn pledio’n hy,
ac ni osteg oni chaffo’i dderbyn
gan yr orsedd fry;
fel y pura’r stormydd mawrion
o bob haint yr awyr las,
felly holl gystuddiau ‘mywyd
a’m perffeithia ymhob gras.
WILLIAM WILLIAMS 1717-91
(Caneuon Ffydd 744)
PowerPoint