F’enaid, mola Dduw’r gogoniant,
dwg dy drysor at ei draed;
ti a brofodd ei faddeuant,
ti a olchwyd yn y gwaed,
moliant, moliant
dyro mwy i’r gorau gaed.
Mola ef, a’i rad drugaredd
lifodd at ein tadau’n lli;
mola ef, ei faith amynedd
a’i dosturi atat ti;
moliant, moliant,
am ei ddoniau rhad, di-ri’.
A thynerwch Tad y’n cadwodd,
edwyn ef ein defnydd brau;
ar ei ddwylo mwyn y’n dygodd
a’n gwaredu o’n holl wae;
moliant, moliant,
ei drugaredd sy’n parhau.
Yn y gân, angylion, unwch,
chwi a’i gwelwch yn ddi-len;
haul a lloer o’i flaen ymgrymwch,
a holl luoedd nef uwchben;
moliant, moliant,
fo i Dduw pob gras, Amen.
H. F. LYTE, 1793-1847 (Praise my soul the King of heaven), cyf. G. WYNNE GRIFFITH, 1883-1967 (‘Odlau’r Efengyl’, Llyfrfa’r M.C., Caernarfon). © geiriau Cymraeg Nia Higginbotham. Defnyddir trwy ganiatâd
(Caneuon Ffydd 83, Grym Mawl 1: 137)