Fy meiau trymion, luoedd maith,
a waeddodd tua’r nen,
a dyna pam ‘roedd rhaid i’m Duw
ddioddef ar y pren.
Hwy a’th fradychodd, annwyl Oen,
hwy oedd y goron ddrain,
hwy oedd y fflangell greulon, gref,
hwy oedd yr hoelion main.
Fy meiau oedd y wayw-ffon
drywanai’i ystlys bur,
fel y daeth ffrwd o dan ei fron
o waed a dyfroedd clir.
O gariad anorchfygol maith,
heb gymar iddo’n bod;
cariad i angel ac i sant
o anghymharol nod.
O maddau ‘mai, a chliria’n llwyr
f’euogrwydd oll i gyd;
n’ad im dristáu dy fawredd mwy
tra byddwyf yn y byd.
ISAAC WATTS, 1674-1748
efel. WILLIAM WILLIAMS, 1717-91
(Caneuon Ffydd 293)
PowerPoint