Gogoniant tragwyddol i’th enw, fy Nuw,
mae’r byd yn dy gysgod yn bod ac yn byw;
ni flinaist fynd heibio i feiau di-ri’
i gofio pechadur na chofia dydi.
Tydi sydd yn deilwng o’r bri a’r mawrhad,
tydi roddodd fywyd a chynnydd i’r had;
tydi yn dy nefoedd aeddfedodd y grawn,
tydi roddodd ddyddiau’r cynhaeaf yn llawn.
Er maint y daioni a roddi mor hael,
tu cefn i’th drugaredd mae digon i’w gael;
llawenydd yw cofio, er cymaint a roed,
fod golud y nefoedd mor fawr ag erioed.
DYFED, 1850-1923
(Caneuon Ffydd 107)