Gorchudd ar dy bethau mawrion
yw teganau gwag y byd;
cadarn fur rhyngof a’th Ysbryd
yw ‘mhleserau oll i gyd:
gad im gloddio, drwy’r parwydydd
tewion, drwodd at fy Nuw
i gael gweld trysorau gwerthfawr
na fedd daear ddim o’u rhyw.
N’ad im daflu golwg cariad
ar un gwrthrych is y rhod,
na gwneud gwrthrych fyth i’m gobaith
o greadur sydd yn bod:
cadw ‘ngolwg wan i fyny’n
symyl atat ti dy hun,
heibio i barch a heibio i amarch,
heibio i ddaear, heibio i ddyn.
Wrth fy ystlys bydd i’m harwain
ymhob drysni rho dy law;
gad im aros yn dy gysgod –
cawod yma, cawod draw;
atat rwyf yn ffoi am noddfa
rhag y drygau sydd o’m hôl;
cymer fi, Dywysog bywyd,
dwg fi yn dy ddwyfol gôl.
WILLIAM WILLIAMS, 1717-91
(Caneuon Ffydd 743)
PowerPoint