Gwêl yma o’th flaen di fy nghalon yn glau,
Fy Nuw, a wnei di dosturio, wnei di drugarhau?
Golcha ‘mhechod du yn dy ddyfroedd pur,
Ac mewn dydd o ras tyrd i’m llenwi i.
Gyda chalon lân, Iôr, addolaf di,
Gyda chalon lân, addolaf di.
(Grym Mawl 2: 89)
Trish Morgan: Lord, My heart before you (Honest heart),
Cyfieithiad Awdurdodedig: Casi Jones
Hawlfraint © 1996 Racial UK Music.
Gweinyddir gan Sovreign Music UK.
PowerPoint
Datganiad Hawlfraint
Mae gobaith.org yn darparu'r ffeiliau PowerPoint hyn o gyfieithiadau o ganeuon mawl Saesneg fel gwasanaeth rhad ac am ddim, ond amddiffynnir yr holl ganeuon gan ddeddf hawlfraint. Gall deiliaid Trwydded Hawlfraint Eglwysi lawrlwytho ac atgynhyrchu geiriau'r caneuon hyn yn unol ag amodau eu trwydded, a dylent gynnwys pob cân a ddefnyddir yn eu hadroddiad defnydd o ganeuon blynyddol. Os nad oes trwydded hawlfraint gennych bydd rhaid derbyn caniatâd gan berchennog pob cân y dymunwch ei lawrlwytho a/neu ei hatgynhyrchu. Am fanylion pellach am y Drwydded Hawlfraint Eglwysi ewch i www.ccli.com neu ffoniwch 01323 436103.