Gweld dy gariad anorchfygol,
Gweld dy chwerw angau loes,
Gweld dy ofal maith diflino
Di amdanaf drwy fy oes,
Sydd yn dofi
Grym fy nwydau cryfa’u rhyw.
O! na welwn ddydd yn gwawrio –
Bore tawel hyfryd iawn,
Haul yn codi heb un cwmwl,
Felly’n machlud y prynhawn;
Un dïwrnod
Golau eglur boed fy oes.
William Williams, Pantycelyn
(Y Llawlyfr Moliant Newydd: 509)
PowerPoint