Gwna fi fel pren planedig, O fy Nuw,
yn ir ar lan afonydd dyfroedd byw,
yn gwreiddio ar led, a’i ddail heb wywo mwy,
yn ffrwytho dan gawodydd dwyfol glwy’.
Gad imi fyw, ynghanol pob rhyw bla,
dan gysgod clyd adenydd Iesu da;
a’m tegwch gwir fel olewydden wiw
o blaniad teg daionus Ysbryd Duw.
1 ANN GRIFFITHS, 1776-1805 2 ANAD.
(Caneuon Ffydd 756)
PowerPoint