Gyfrannwr pob bendithion
ac awdur deall dyn,
gwna ni yn wir ddisgyblion
i’th annwyl Fab dy hun;
drwy bob gwybodaeth newydd
gwna ni’n fwy doeth i fyw,
a gwisg ni oll ag awydd
gwas’naethu dynol-ryw
Rho inni ysbryd gweddi
rho inni wefus bur,
rho gymorth mewn caledi
i lynu wrth y gwir;
yng nghynnydd pob gwybodaeth
glanha, cryfha ein ffydd;
ymhob rhyw brofedigaeth
dysg inni rodio’n rhydd.
O Iesu, a fu farw
yn ieuanc ar y groes
dod arnom ni dy enw
yn awr ym more oes;
dy air fo yn ein calon
dy Ysbryd yn ein gwaith
a choron pob gobeithion
dy gwrdd ar ben y daith.
ELFED, 1860-1953
(Caneuon Ffydd 720)
PowerPoint