Heddiw’r ffynnon a agorwyd,
disglair fel y grisial clir;
y mae’n llanw ac yn llifo
dros wastadedd Salem dir:
bro a bryniau
a gaiff brofi rhin y dŵr.
Minnau ddof i’r ffynnon loyw
darddodd allan ar y bryn,
ac mi olchaf f’enaid euog
ganwaith yn y dyfroedd hyn:
myrdd o feiau
dafla’ i lawr i rym y dŵr.
WILLIAM WILLIAMS, 1717-91
(Caneuon Ffydd 498)
PowerPoint