Hyfryd lais Efengyl hedd
sydd yn galw pawb i’r wledd;
mae gwahoddiad llawn at Grist,
oes, i’r tlawd newynog, trist;
pob cyflawnder ynddo cewch;
dewch â chroeso, dlodion, dewch.
Cyfod, Haul Cyfiawnder llon,
cyfod dros y ddaear hon;
aed dy lewyrch i bob gwlad,
yn dy esgyll dwg iachâd;
dos ar gynnydd, nefol ddydd,
doed y caethion oll yn rhydd.
Iesu gaiff y clod i gyd,
ymaith dug bechodau’r byd:
rhoes ei hunan yn ein lle,
bellach, beth na rydd efe?
Haleliwia! llawenhewch,
dewch, moliennwch, byth na thewch.
PEDR FARDD, 1775-1845
(Caneuon Ffydd 271)
PowerPoint