logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Ie, gwnaf

Pennill
Pwysaf ar un peth
Yr un Duw na fetha byth
O, ni fetha nawr
Wnei di’m ‘n siomi nawr
Yn yr aros
Yr un Duw sydd byth yn hwyr
Yn trefnu’r cyfan nawr
Yn trefnu’r cyfan nawr

Cytgan
Ie, gwnaf dy ddyrchafu
Yn y dyffryn isaf
Ie, gwnaf ganu’th glod
Ie, gwnaf, canu’n llawen
Pan rwy’n teimlo’n isel
A phob dydd, O ie, gwnaf

Ail-adrodd Pennill a Chytgan

Pont (X4)
Rwy’n dewis mawl
Dy ganmol Di, ganmol Di
Yr enw dros bawb
Does neb i dy herio Di

Cytgan

Tag
Trwy ‘nyddiau oll
Ie, gwnaf

Ie, gwnaf
Yes I will (Eddie Hoagland | Jonathan Smith | Mia Fieldes)
Cyfieithiad awdurdodedig Arwel E. Jones
© All Essential Music (Gwein. gan Essential Music Publishing LLC)
Be Essential Songs (Gwein. gan Essential Music Publishing LLC)
HBC Worship Music (Gwein. gan Essential Music Publishing LLC)
Hickory Bill Doc (Gwein. gan Essential Music Publishing LLC)
Jingram Music Publishing (Gwein. gan Essential Music Publishing LLC)
So Essential Tunes (Gwein. gan Essential Music Publishing LLC)
Upside Down Under (Gwein. gan Essential Music Publishing LLC)
CCLI # 7195476

Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.

PowerPoint
  • Rhys Llwyd,
  • May 10, 2023