Iesu cymer fi’n dy gôl,
Rhag diffygio;
N’ad fy enaid bach yn ôl,
Sydd yn crwydro;
Arwain fi drwy’r anial maith
Aml ei ddrysle,
Fel na flinwyf ar fy nhaith
Nes mynd adre’.
Rho dy heddwch dan fy mron –
Ffynnon loyw;
Ffrydiau tawel nefol hon
Fyth a’m ceidw;
Os caf ddrachtio’r dyfroedd pur,
Mi drafaelaf
Fryniau ucha’r anial dir-
Ni ddiffygiaf.
Gwedd dy wyneb siriol sy
Yn gorchfygu
Y gelynion creulon cry’
Oedd yn maeddu;
Gwedd dy wyneb serchog yw
Fy holl iechyd;
Dyna alwaf tra fwyf byw
Imi’n wynfyd.
William Williams, Pantycelyn
(Y Llawlyfr Moliant Newydd: 385)
PowerPoint