Iesu ei hun yw ngobaith i
Ei Waed sydd yn fy angori
Does dim i’w roi gan ddynolryw
Yn enw Iesu nawr rwy’n byw.
Iesu Grist, Ein hangor ni
Y meirw caiff fyw, Trwy gariad Crist,
Trwy y Storm
Ef yw’r Iôr, Iôr dros oll.
Pan rwyf yn baglu yn y ras
Mi godaf eto drwy ei ras
Trwy’r drwg a’r da, popeth a ddaw
Diogel wyf yng nghlwyfau’i law.
Pan ddaw yn ôl ar gymylau’r nef
Mi gaf fod yno gydag ef,
Yn rhannu o’i gyfiawnder ef
Yn etifeddu teyrnas nef.
Jonas Myrin, Reuben Morgan & Eric Liljero: My Hope is built on nothing less(Cornerstone), Cyfieithiad Awdurdodedig: Cynan Llwyd
Copyright © 2011 Hillsong Music Publishing