Iesu ei hunan yw fy mywyd,
Iesu’n marw ar y groes:
y trysorau mwyaf feddaf
yw ei chwerw angau loes;
gwacter annherfynol ydyw
meddu daear, da na dyn;
colled ennill popeth arall
oni enillir di dy hun.
Dyma ddyfnder o drysorau,
dyma ryw anfeidrol rodd,
dyma wrthrych ges o’r diwedd
ag sy’n hollol wrth fy modd;
nid oes syched arnaf mwyach
am drysorau gwag y byd,
popeth gwerthfawr a drysorwyd
yn fy Mhrynwr mawr ynghyd.
O ddyfnderoedd o ddoethineb,
O ddyfnderoedd maith o ras;
O ddirgelion anchwiliadwy,
fythol uwch eu chwilio i maes:
mae seraffiaid nef yn edrych,
gyda syndod, bob yr un,
ar ddyfnderoedd cariad dwyfol,
Duw yn marw dros y dyn.
WILLLAM WILLIAMS, 1717-91
(Caneuon Ffydd 516)
PowerPoint