Iesu, fe ddathlwn ni dy goncwest di;
Iesu, ymgollwn yn dy ras.
Iesu, gorfoleddwn ynot ti;
Iesu, fe’n prynaist drwy dy waed.
I brofi rhyddid cael bod yn blant i Dduw,
O fod yn gaeth i bechod,
trwyddo ef y cawn ni fyw.
Dewch, gorfoleddwn yn ei goncwest ef,
A’i gariad yn ein c’lonnau ni.
Cytgan
Ef a agorodd y ffordd i ni at Dduw,
Ei Ysbryd sy’n ein nerthu,
trwyddo ef yr y’m yn byw;
Ac yn ei gwmni diflanna pob rhyw ofn,
A’i gariad yn ein c’lonnau ni.
Cytgan
Cyfieithiad Awdurdodedig : Arfon Jones, Jesus, we celebrate your victory, John Gibson
© 1987 ac yn y cyfieithiad hwn Thankyou Music/ Gwein. Gan worshiptogether.com songs
ac eithrio DU ac Ewrop, gwein. gan Kingsway Music (tym@kingsway.co.uk) Defnyddir trwy ganiatâd
(Grym Mawl 1: 90)
PowerPoint