Iesu Grist o’r nef a ddaeth,
Haleliwia!
I Galfaria fryn yr aeth,
Haleliwia!
Marw wnaeth dros euog fyd,
Haleliwia!
Rhodder iddo’r clod i gyd,
Haleliwia!
Rhoddodd Iawn ar bren y groes,
Haleliwia!
I’n rhyddhau o feiau’n hoes,
Haleliwia!
Llawen floeddied nef a llawr,
Haleliwia!
Teilwng wyt, O Geidwad mawr,
Haleliwia!
Yn lle’r groes, cadd orsedd wen,
Haleliwia!
Yn y nef mae nawr yn ben,
Haleliwia!
Ffrwyth ei farw leinw’r nef,
Haleliwia!
Fe ddaw’r dydd diwellir ef,
Haleliwia!
W. EMLYN JONES, 1841-1914
(Caneuon Ffydd 533)
PowerPoint