logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Iesu sy’n rhagori

Pennill 1
Iesu’r Adda sy’n rhagori –
Mab i Dduw, a Mab y Dyn,
Yn yr ardd, pan demtiwyd yno,
Safai’n gryf heb ildio dim.
Ef sy’n cyfiawnhau’r llaweroedd
Gan roi bywyd newydd in
Trwy farwolaeth – symud melltith
Sathrwyd Satan drwy ei rym.

Cytgan
Amen! Amen!
Crist ein Harglwydd a’n Pen;
Ef yw’r dechrau, Ef yw’r diwedd,
Haleliwia, Amen!

Pennill 2
Iesu’r Isaac sy’n rhagori,
Mab yn dioddef er ein mwyn
Dringodd lwybr bryn Golgotha
Er mwyn rhoi ei fywyd in.
Fe offrymwyd ar yr allor
Gwrthrych cariad nefol Dad;
Yno cafwyd iachawdwriaeth –
O’r fath gariad gawn yn rhad.

Cytgan
Amen! Amen!
Crist ein Harglwydd a’n Pen;
Ef yw’r dechrau, Ef yw’r diwedd,
Haleliwia, Amen!

Pennill 3
Iesu’r Moses sy’n rhagori
Torrodd ormes nerthoedd byd
Daeth i’n harwain tua’r nefoedd
Gollwng wnaeth y caeth yn rhydd.
Gyda’i freichiau yn agored
Rhannodd ddyfroedd môr yn ddau;
Rhwygodd len y deml sanctaidd,
Agor ffordd oedd gynt ar gau.

Cytgan
Amen! Amen!
Crist ein Harglwydd a’n Pen;
Ef yw’r dechrau, Ef yw’r diwedd,
Haleliwia, Amen!

Pennill 4
Iesu’r Dafydd sy’n rhagori,
Bugail Da a Brenin Mawr
Yn fuddugol yn y frwydr
Lloriodd elyn, concrodd gawr.
Ni, ei braidd am dragwyddoldeb,
Cawn ein gwarchod gan ei gledd –
Nes in gyrredd nefol gorlan
Yn ei wlad tu hwnt i’r bedd.

Cytgan
Amen! Amen!
Crist ein Harglwydd a’n Pen;
Ef yw’r dechrau, Ef yw’r diwedd,
Haleliwia, Amen!

Iesu sy’n rhagori
Christ the true and better (Matt Boswell, Matt Papa, Keith Getty)
Cyfieithiad awdurdodedig Lowri A. Emlyn
© 2020 Getty Music Hymns and Songs; Getty Music Publishing; Love Your Enemies Publishing; Messenger Hymns (Gwein. Capitol CMG Publishing)

Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.

PowerPoint
  • Rhys Llwyd,
  • January 17, 2024